Annwyl Randdeiliaid,

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, mae Cyngor Sir Powys erbyn hyn wedi cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn cynnig newid categori iaith Ysgol Bro Hyddgen o Ddwy Ffrwd i gyfrwng Cymraeg.

Mae copi o’r hysbysiad hwn wedi’i atodi, a gallwch hefyd ei weld ar wefan y Cyngor: https://cy.powys.gov.uk/article/10004/Ysgol-Bro-Hyddgen-Machynlleth 

Bydd yna gyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod gyda chyfle i unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r cynnig hwn i wneud hynny.   I gael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid i’r gwrthwynebiadau fod trwy lythyr neu e-bost a rhaid eu hanfon i’r cynigydd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynnig.

Y dyddiad y daw’r cyfnod gwrthwynebu i ben o ran y cynnig hwn yw 15 Gorffennaf 2021.