Adroddiad Rygbi / Rugby Report

V

Ysgol Bro Idris

 

 

Teithiodd y tim dan 16 i Ddolgellau ar ddydd Mercher y 9fed o Chwefror. Yn gynnar yn y gêm dangosodd Bro Hyddgen amddiffyn strwythuredig i gadw Bro Idris allan. Pan ddaeth Bro Hyddgen i mewn i’r gêm fe gadwon nhw’r bêl yn dda, fi’r blaenwyr yn cario’n dda a’r cefnwyr yn edrych yn fygythiol. Aeth Bro Hyddgen ar y blaen wedi cic gosb wedi ei tharo’n dda gan Ben Breese-Griffiths o tua 35m allan. Aeth ymlaen i gicio 6/7. Daeth cais yr un gan Elgan Jarman a Kayden Heard cyn hanner amser i wneud hi’n 17-17. Yn yr ail hanner dechreuodd Bro Idris yn gryf gan fynd 24-17 i fyny. Ymateboedd Bro Hyddgen a thrwy geisiau gan Ben Breese-Griffiths a Kayden Heard (x2) tynnu i ffwrdd i fuddugoliaeth o 36-24. Gallai’r gêm fod wedi mynd y naill ffordd neu’r llall, roedd y ddwy ochr yn glod ac yn drefnus iawn o ran ymosod ac amddiffyn. Mae hyfforddiant rygbi yn cael ei gynnal bob nos Fawrth ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac roedd safon y gêm yn dangos ymrwymiad y chwaraewyr i hyfforddi ar ôl ysgol yn wythnosol. Byddwn yn rhannu dolen i’r recordiad llawn o’r gêm pan fydd yn barod. Byddwn hefyd yn croesawu Bro Idris ar gyfer gemau merched a bechgyn dan 13 yn ogystal ag ailadrodd gêm y tîm dan 16 gartref cyn gwyliau’r Pasg. Wna i ddim sôn am berfformiadau unigol gan fod yna ormod o berfformiadau gwych o 1-15 i sôn amdanyn nhw i gyd. Adroddiad gan Mr Harpwood a Ben-Breese Griffiths