Tywydd garw – cau ysgol / Adverse weather – school closure

 

 

Neges gan Cyngor Sir Powys:

Bydd ysgolion a darpariaeth addysgiadol y blynyddoedd cynnar Powys ar gau yfory (18.2.22) oherwydd y rhagolygon ar gyfer gwyntoedd cryfion ar hyd y sir.

Yn ystod y dydd, gallai’r gwyntoedd hynny gyrraedd rhwng 60 – 70 milltir yr awr, gydag hyrddiadau cryfach fyth. Mae gwybodaeth wedi’n cyrraedd gan sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru bod yr amodau o ganlyniad i’r tywydd yn debygol o achosi difrod sylweddol i adeiladau, gan wneud teithio’n beryglus.

Nid ydym am gymryd risgiau di-angen o ran diogelwch plant, pobl ifanc a staff.  Bydd disgyblion yn medru parhau gyda’u dysgu ar lein, gydag ysgolion yn gosod tasgau pwrpasol ar gyfer 18.2.22.

Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda.

Message from Powys County Council:

Powys schools and early years educational provision will be closed tomorrow (18.2.22) due to the very high winds forecast across the county.

Winds could reach up to 60 – 70 miles per hour, with stronger gusts possible. Information provided by organisations such as Welsh Government, Met Office and Natural Resources Wales indicate that the conditions as a result of the storm are highly likely to cause significant damage to buildings and travelling in such conditions would be dangerous.

We do not wish to take any unnecessary risks and compromise the safety of children, young people and staff. Pupils will be able to continue with their learning on line, with schools setting appropriate tasks for the 18.2.22

Please be vigilant and keep safe.