Defnyddio data yn Ysgol Bro Hyddgen

 

Fel ysgol, rydym yn defnyddio data yn fewnol ar gyfer nifer o resymau gan gynnwys:

Gwybodaeth cyswllt â’r teulu neu ofalwyr cartref: ParentPay, Teachers2Parents a Capita Sims

Gwybodaeth am bresenoldeb, asesiad risg a lles hanesyddol ac ar adegau’n caif y wybodaeth ei rannu gyda Chyngor Sir Powys: Capita Sims, Evlove, Gyrfa Cymru

Systemau mewnol yr ysgol gan gynnwys y llyfrgell, llogi ystafelloedd a thracio cynnydd y disgyblion: Capita Room Booking System, ClassDojo, Capita MLS Library, Incerts, Cwmpawd

Canlyniadau ar gyfer systemau tracio a thangyflawni. Caiff y wybodaeth ei gadw ar becynnau trin data mewnol a chaiff ei ddosbarthu yn unol â gofynion statudol y cyngor sir a Llywodraeth Cymru

Gwaith eich plentyn ar weinydd diogel yr ysgol a systemau lleoli dogfennau ar-lein: J2e, Hwb: Office 365,  Office 365: Trwy’r ysgol, Foldr Moodle, (Hwb: Google Apps-gyda chaniatâd ychwanegol)

Lluniau a fideo fel tystiolaeth o’r gweithgareddau mae’r ysgol yn eu cynnal ac ar gyfer asesu ar gyfer dysgu ac addysgu

Gwybodaeth feddygol hanfodol ar gyfer lles a diogelwch plant a staff: Evolve, Trent

Data diogelwch a chofnodi systemau TGCh yr ysgol sydd yn cynnwys e-bost, data, systemau a gwefannau mae plant a staff yn cael mynediad iddynt

Mewn rhai ardaloedd o’r ysgol mae yna systemau CCTV ar gyfer diogelwch: MicroSystems a netviewer gyda  data yn cael ei leoli a’i reoli yn fewnol

Defnyddio peth data ar gyfer cymedroli clwstwr gyda gwefannau diogel mewnol ac allanol Llywodraeth Cymru fel Hwb+, Microsoft SharePoint, O365, J2e etc.

Fel rhan o gyfundrefn statudol yr ysgol, mae rhaid i’r ysgol gydweithio ac adrodd yn ôl i’r llywodraethwyr a’r cyngor. Bydd y data yma yn cael ei normaleiddio i sicrhau diogelwch data unigolion.Sut rydym yn diogelu’r data?

Yn dilyn polisïau diogelu data, mae’r systemau sydd wedi cael eu rhestru yma wedi cael eu hasesu fel eu bod yn cwrdd â gofynion diogelu data i safonau polisïau Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru.

Mae’r data yma yn cael ei storio ar weinydd mewnol yr ysgol ac yn cael ei ddiogelu tu ôl i fur gwarchod Powys.

Gellir asesu’r data yma gan aelodau o staff sydd wedi derbyn hawliau gan y swyddog gweinyddol yn unig. Oherwydd y systemau electroneg sydd gan yr ysgol, caiff copi wrth gefn ei greu o’r data a’i gadw mewn adeilad allanol i’r prif safle.

O dro i dro, bydd yr ysgol yn gweithio gydag asiantaethau allanol ar gyfer darparu gweithgareddau, ymweliadau a chyfleoedd allgyrsiol. Mae’r ysgol yn sicrhau bod y data sydd yn cael ei rannu ag unigolion allanol yn rhesymol a’u bod yn darparu cytundeb rhannu data os bydd rhaid.

Sut fydd yr ysgol yn dileu’r data ar ôl i fy mhlentyn adael yr ysgol?

Bydd y wybodaeth nad yw o unrhyw defnydd mwyach yn cael ei ddileu 3 blynedd ar ôl i’ch plentyn adael yr ysgol. Bydd peth gwybodaeth, fel canlyniadau arholiadau allanol, yn cael eu cadw rhag ofn bydd eich plentyn angen cofnod o’u canlyniadau yn y dyfodol.

Ar unrhyw adeg rydych yn dymuno uwchraddio gwybodaeth eich plentyn e.e. cyfeiriad a.y.b. gallwch gysylltu gyda’r swyddfa yn yr ysgol. Gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Delweddau yn cael eu defnyddio i hysbysebu’r ysgol yn fewnol ac allanol

O dro i dro bydd yr ysgol a sefydliadau addysgiadol yn defnyddio lluniau o’r gweithgareddau sydd yn digwydd yn yr ysgol ar gyfer cylchgronau newyddion, hysbysfwrdd, gwefan yr ysgol a chyfryngau cymdeithasol. Cofiwch os ydych angen newid eich dewis, gallwch lenwi’r slip yn y llyfr cyswllt (campws uwchradd), neu roi gwybod i’r swyddfa.

 

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth neu roi gwybod i’r ysgol am wybodaeth sydd angen ei newid?

Os ydych yn dymuno derbyn rhagor o wybodaeth am y data mae’r ysgol yn ei gadw am eich plentyn neu angen rhoi gwybod am newid yn y data y mae’r ysgol eisoes yn ei gadw, gallwch gysylltu gyda swyddfa’r ysgol.