Ysgol Bro Hyddgen yn dymuno llwyddiant pellach i fyfyrwyr blwyddyn 13
Canmolodd Mr Dafydd Jones, Pennaeth Ysgol Bro Hyddgen y cohort o fyfyrwyr blwyddyn 13 am eu llwyddiant a gwaith called sydd wedi’u galluogi i gyd i ennill llefydd yn eu prifysgolion dewisiedig neu wrth iddynt dderbyn prentisiaethau mewn diwydiant: “Dyma grwp o bobl ifanc sy’n gyson wedi gweithio’n galed ac wedi cyfrannu’n gadarnhaol a gweithgar iawn gydol eu cyfnod yn yr ysgol, a rydym yn falch iawn o bob un ohonynt. Fel y gwelwyd wrth ddyfarnu gwobrwyau blynyddol yr ysgol, mae’r disgyblion hyn wedi llwyddo a chyfrannu’n arbennig ar draws amrywiaeth o feysydd a chymwyseddau. Dymunaf ddiolch I’r rhieni a gofalwyr, staff a chyfeillion yr ysgol sydd wedi galluogi’r myfyrwyr hyn ddatblygu i fod yn ddinasyddion cyfrifol a medrus sy’n ddieithriad yn cyfrannu’n gadarnhaol i gymdeithas. Roedd yn agos hanner y myfyrwyr hyn wedi derbyn cynigion prifysgol di-amod cyn y clo mawr, a roedd nifer arwyddocaol wedi derbyn cynigion o brifysgolion safonol y Grwp Russell. Mae’r clo mawr wedi bod yn gyfnod heriol I’r myfyrwyr gyda sawl un yn dweud bod hwn yn ddiwedd swta ac anghyffredin i’w cyfnod yn Ysgol Bro Hyddgen; maent hefyd yn dweud eu bod yn siomedig na chawsant gyfle i gwblhau eu cyrsiau a phrofi’u hunain mewn arholiadau fel roeddynt wedi disgwyl ei wneud. Dymunwn yn dda iddynt oll i’r dyfodol; rydym hefyd yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed am eu llwyddiannau i’r dyfodol”.
Enghraifft arbennig o lwyddiant yw Cerys Hafana Hickman, oedd yn brif-ddisgybl llynedd. Cerys oedd “Disgybl y Flwyddyn” yng ngwobrau blynyddol yr ysgol 2019-2020, ac mae’n fodel rol i eraill ei hefelychu. Gydol ei chyfnod ym Mro Hyddgen, mae Cerys yn gyson wedi cyflawni i safon eithriadol, ac mae wedi bod yn arweinydd arbennig gan ffocysu ar faterion fel newid hinsawdd, yr Iaith Gymraeg, a chydraddoldeb hiliol a gender. Yn ddiweddar, rhyddhaodd albwm – mae’n gerddor dawnus ac yn canu nifer o offerynau gan gynnwys y delyn deires. Enillodd Cerys 3A*; gwrthododd gynnig Prifysgol Rhydychen, ac yn hytrach bydd yn astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Goldsmith’s yn Llundain.
Mae Ffion Jones a Mia Banks yn artistiaid talentog. Bydd Ffion yn astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Fetropolitanaidd Caerdydd flwyddyn nesaf yn dilyn ennill 1A* a 2B. Yn dilyn ennill 1A* a 2A, bydd Mia yn dilyn cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Ceredigion cyn mynd ymlaen i astudio cwrs gradd mewn Ffotograffiaeth.
Mae Tomos Chick yn Fathemategydd a Gwyddonydd medrus, ac ef oedd enillydd gwobr Fathemateg yr ysgol eleni. Bydd Tomos yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Birmingham flwyddyn nesaf wedi iddo ennill 2A*, 2A ac 1B.
Yn y gwborau ysgol diweddar, enillodd Rose y wobr am ddyfalbarhad ac ymroddiad, a mae ei Gwaith caled parhaus wedi arwain at ganlyniadau rhagorol – enillodd Rose 2A* a 2A. Mae wedi derbyn cynnig di-amod Prifysgol Bryste i astudio Daearyddiaeth yno.
Wrth anelu am yrfa fel newyddiadurwr pel-droed, mae Dafydd Glyndwr Jones wedi ffocysu ar ddatblygu’i sgiliau gydol ei gyfnod yn y chweched dosbarth. Ar hyn o bryd, mae’n datblygu proffil cynyddol fel newyddiadurwr gan adrodd yn gyson ar Gynghrair Genedlaethol Cymru; uchafbwynt iddo llynedd oedd cyfweld Ryan Giggs, Rheolwr Tim Cymru, a chyhoeddwyd erthygl ysgrifenwyd gan Dafydd o ganlyniad yn genedlaethol. Mae Dafydd wedi ennill 1A* a 3A, ac mae wedi derbyn cynnig di-amod i Brifysgol De Cymru i astudio Newyddiaduraeth Chwaraeon.
Ymysg y canlyniadau arbennig eraill mae:
- Swyn Hughes – 2A*, 2A ac 1 Anrhydedd*, a bydd hi’n astudio Penaerniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl
- Emma Halls – 4A; bydd hi’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
- Malen Aeron – 3A; bydd hi’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd
- Catrin Gittins – 2A a 2B; bydd hi’n astudio Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd
- Alex Monnox – 1A, 2B, 1C ac Anrhydedd, a bydd ef yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Erain Edwards – 2A ac 1B; bydd hi’n astudio Cyfrifeg ym Mhrifysgol Caerdydd
- Leusa Jenkins – 1A*, 2A ac 1C, a bydd hi’n astudio Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor
- Kiran Ingham – 1A, 2B ac 1 Anrhydedd
- Alaw Jones – 2A ac 1 Anrhydedd*, a bydd hi’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Exeter
- Marged Davenport – 1A, 2B ac 1 Anrhydedd*, a bydd hi’n astudio Troseddeg a Seicoleg Trosedd ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Tegan Roberts – 1A a 3B; bydd hi’n astudio Astudiaethau Perfformio yng Ngholeg y Drindod Dewi Sant (Caerdydd)
- Seimon Jones – 1A, 1B, 1C ac 1D; bydd ef yn astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Bangor
- Lauren Jones-Larkin – 1A a 3B; bydd hi’n astudio Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Bethany Evans – 1A, 1 Anrhydedd*, 1 Anrhydedd ac 1 Clod, a bydd hi’n astudio Addysg a Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Meg Evans – 1A, 1 Anrhydedd* a 2 Anrhydedd; bydd hi’n astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor
- Nathan Roberts – 1A, 1C ac 1 Anrhydedd; bydd Nathan yn dilyn llwybr prentisiaeth
-
Mae canlyniadau Uwch Gyfrannol arbennig wedi’u hennill gan ddisgyblion blwyddyn 12 gan gynnwys:
-
Niklas Dewally – 4A
-
Ffion Duke – 1A a 2B
-
Joseph Lewis – 3A
-
Lily Shone – 2A
Cerys Hafana Hickman
(3A*)
Tomos Chick
(2A*, 2A ac 1B)