Rydym yn awyddus i weld pob plentyn yn yr ysgol yn llwyddo. Gan hynny mae’n bwysig bod rhieni’n gwneud eu gorau glas i helpu eu plant i ddod i’r ysgol am y 190 diwrnod llawn fel sy’n cael ei nodi yn y Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol – Diwygiad 2006).

O dan y Ddeddf Addysg (1996), cyfrifoldeb y rhiant neu’r gofalwr yw sicrhau bod plentyn yn mynychu’r ysgol. Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol bwysig ac mae colli’r ysgol yn gallu cael effaith fawr ar gyflawniad dros flwyddyn fel mae’r grid isod yn ei ddangos:

Presenoldeb 95-100% Cyfle gorau o lwyddo Mae’ch plentyn yn manteisio’n llawn ar bob cyfle dysgu.

Presenoldeb 90-95%

Mae’ch plentyn wedi colli o leiaf dwy wythnos o ddysgu Boddhaol. Efallai y bydd rhaid i’ch plentyn dreulio amser yn dal i fyny gyda gwaith.

Presenoldeb 85-90%

Mae’ch plentyn wedi colli o leiaf pedair wythnos o ddysgu Gall eich plentyn fod mewn perygl o dangyflawni ac efallai y bydd rhaid i chi roi help i’ch plentyn i ddal i fyny gyda’u gwaith

Presenoldeb80-85%

Mae’ch plentyn wedi colli pum wythnos a hanner o ddysgu Mae presenoldeb gwael yn effeithio’n sylweddol ar ddysgu’ch plentyn.

Presenoldeb o dan 80%

Mae’ch plentyn wedi colli saith wythnos a hanner o ddysgu Mae’ch plentyn yn colli allan ar addysg eang a chytbwys. Rydych chi mewn perygl o gael eich erlyn.

 

Prydlondeb

Noder hefyd bod prydlondeb hefyd yn cael ei gyfrif ac os yw eich plentyn yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol heb ddim rheswm: ar ôl 9.30am, caiff ei gofrestru’n absennol heb ganiatâd.

Ceisiadau am Wyliau

Os ydych chi’n dymuno mynd â’ch plentyn neu’ch plant ar wyliau yn ystod amser tymor rhaid i chi lenwi’r ffurflen Cais am Wyliau (ar gael o’r swyddfa) o leiaf 28 diwrnod cyn mynd i ffwrdd.

Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion Cymru – 2010) yn rhoi grym dewisol i benaethiaid i adael i deulu gymryd gwyliau yn ystod amser tymor ow yw’r rhieni’n gofyn caniatâd. Ar wahân i amgylchiadau arbennig, ni ellir caniatáu mwy na deg diwrnod o wyliau. Yn Ysgol Bro Hyddgen byddwn yn ystyried yr agweddau canlynol cyn penderfynu caniatáu gwyliau yn ystod amser tymor.

· Ffigyrau presenoldeb ar gyfer y flwyddyn flaenorol. (Byddwn yn disgwyl i bresenoldeb fod yn uwch na 94.7% yn y cynradd; 93.8% yn yr uwchradd

· Ymddygiad ac agwedd tuag at fywyd ysgol

· Nad yw’r gwyliau’n torri ar draws cyfnodau dysgu pwysig rydym wedi tynnu’ch sylw atyn nhw (fel asesiadau statudol sy’n digwydd ym mis Mai bob blwyddyn).

· Eich bod yn llenwi’r ffurflen Cais am Wyliau yn Ystod y tmor yn gywir ac yn cyflwyno’r cais 28 diwrnod cyn y gwyliau.

Byddwn yn anfon bonyn caniatáu/gwrthod caniatáu atoch chi o fewn saith diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais.

Canlyniad Absenoldebau heb eu Caniatáu

Byddwn yn gwneud cais i roi Hysbysiad Cosb Benodedig os bydd cofnod o bum diwrnod neu fwy (deg sesiwn – bore/prynhawn) o absenoldeb heb awdurdod a bod presenoldeb o dan 90% ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yn hyn.

Hyderwn y byddwch chi’n cydweithio gyda’r ysgol drwy sicrhau bod eich plentyn yn yr ysgol ac ar amser a thrwy drefnu gwyliau yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod eich plentyn yn llwyddo yn yr ysgol. Bydd hefyd yn sicrhau nad yw’r ysgol yn syrthio i’r Chwarteli isaf yn y broses gategoreiddio ysgolion.