Annwyl Riant/ Gwarcheidwad,

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod ichi am ddiweddariad i’r wisg ysgol a gaiff ei gyflwyno o fis Medi ymlaen. Hoffwn eich hysbysebu am y newid yma fel eich bod yn cymryd hyn i ystyriaeth wrth i chi brynu eitemau newydd dros yr Haf.

 

Cyflwynir y newid i wella safon gyfredol y wisg ysgol. Ar hyn o bryd, mae gormod o’n myfyrwyr yn ansicr o’r hyn sy’n gyfystyr â throwsus ysgol du derbyniol, siwmperi ac esgidiau duon ac o ganlyniad i sgyrsiau gyda nifer o rieni, rwyf yn awyddus i ddileu unrhyw amwysedd posib.

 

Bydd y newid hwn yn sicrhau safonau ymddangosiad ein myfyrwyr, a bydd hyn yn golygu nad yw amser gwerthfawr ein staff yn cael ei wario’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â phroblemau gyda’r wisg ysgol. Yn dilyn sgyrsiau gyda rhieni, gwn y bydd llawer ohonoch yn croesawu’r eglurder dros beth yw y wisg gywir a ble i’w phrynnu.

 

Y newid rydym yn ei gyflwyno yw ein bod yn cyflwyno trowsus ysgol safonol a sgert ysgol safonol fel rhan o’n gwisg ysgol. Mae’r eitemau yma ar gael gan y cwmni Constructiv clothing, sydd eisioes yn darparu eitemau eraill o’r wisg ysgol.

 

Isod, gwelir y fersiwn mwyaf diweddar o’r polisi gwisg ysgol sydd wedi cael ei gytuno gan ein Llywodraethwyr.

 

Mae’n ddisgwyliedig bod gan bob disgybl y wisg ysgol ganlynol gyda nhw pob diwrnod;

 

Bechgyn

· Trowsus du teilwredig* (h.y. dim chinos, leggings, jeggins na jîns denim)

· Crys gwyn*

· Tei porffor yr ysgol*

· Siwmper/cardigan lwyd yr ysgol* (dydi ‘hoody’ ysgol/hoody ddim yn siwmper ysgol)

· Esgidiau smart ddu (h.y. lledr neu ledr faux – dim trainers na phymps)

· Sanau du

· Dim gemwaith (stydiau yn y glust yn unig)

· Dim colur

· Lliw gwallt naturiol yn unig

 

Merched

· Trowsus du teilwredig* (h.y. dim chinos, tracsiwtiau, leggings, jeggins na jîns denim)

· neu sgert ddu gotwm at y ben-glin* gyda theits di-draidd

· Crys gwyn*

· Tei porffor yr ysgol*

· Siwmper/cardigan lwyd yr ysgol* (nid yw ‘hoody’ ysgol/hoody yn siwmper ysgol)

· Esgidiau smart du (h.y. lledr neu ledr faux – dim trainers)

· Sanau du

· Dim gemwaith (stydiau yn y glust yn unig)

· Dim colur

· Lliw gwallt naturiol yn unig

 

*Dylid archebu’r eitemau yma o’r wisg ar y wefan ganlynol;  http://www.constructiv.co.uk/shop/categories.asp

Neu os ydych ar incwm isel, gallwch gyngor Powys eich helpu gyda chost prydau ysgol a dillad ysgol ar gyfer unrhyw ddisgybl mewn addysg llawn amser, dylyn y linc yma: https://cy.powys.gov.uk/article/3759/Prydau-Ysgol-am-ddim-a-help-gyda-dillad-ysgol

 

Gobeithiaf bod yr hysbysiad ymlaen llaw yn eich helpu i gynllunio eich archebion gwisg ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

 

Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad ynglŷn â hyn ac am eich cefnogaeth I gynnal y safonau rydym yn dymuno’u harddel fel ysgol.

 

Yn gywir,

Mr Dafydd M B Jones

Pennaeth