Cyfnod Alweddol 3

Annwyl Rieni / Ofalwyr

Mae’n bleser cyflwyno’r llawlyfr hwn i’ch sylw. Un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae’n rhaid i chi, fel rhieni, ei wneud yw dewis yr ysgol fwyaf addas i’ch plentyn.  Yn naturiol, mae pob rhiant  eisiau ysgol dda i’w plant, ond maent hefyd yn chwilio am ysgol lle bydd eu plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus.  Credwn y gallwn gynnig y rhain i gyd yn Ysgol Bro Hyddgen.
Mae’r ysgol yn gymuned groesawgar a hapus, lle mae disgwyl i ddisgyblion weithio’n galed ac ymddwyn yn dda.  Rydym yn deall bod gan blant wahanol gryfderau ac mae croeso i bob unigolyn yma.  Mae ein niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn ond rydym yn parhau yn ddigon bychan i allu rhoi gofal i bob plentyn a darparu ar gyfer anghenion yr unigolyn.
Rydym yn falch iawn o gyrhaeddiad ein disgyblion yn yr arholiadau TGAU eleni, gyda 98% yn llwyddo i ennill 5 cymhwyster TGAU neu gyfwerth.  Gallaf eich sicrhau bod athrawon yr ysgol yn darparu gwersi o ansawdd uchel.  Rydym hefyd yn falch iawn o’n llwyddiant ym myd cerddoriaeth, ar y meysydd chwarae, yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd ac yn y nifer o glybiau sydd yn agored i bob disgybl.  Mae gennym Chweched Ddosbarth poblogaidd iawn yn yr ysgol ac unwaith eto ymfalchïwn yn llwyddiant ein myfyrwyr eleni gyda 69.2% yn llwyddo i ennill graddau A* – C yn eu harholiadau Safon Uwch; 51.6% o rheiny yn raddau A* – B.
Mae perthynas agos rhwng y cartref â’r ysgol yn bwysig, ac mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r ysgol ar unrhyw adeg.  Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda chi bob tymor am gynnydd eich plentyn. Mae eich plentyn chi yn bwysig i ni ac rydym yn credu y dylai’r amser yn yr ysgol fod yn fuddiol a gwerth chweil.  Pe byddech yn penderfynu anfon eich plentyn i Ysgol Bro Hyddgen, rwyf i a’m staff yn gwbl hyderus y byddwch wedi gwneud y penderfyniad cywir.  Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn fuan, ac os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi yn yr ysgol unrhyw amser.

Yn ddiffuant

Dafydd M B Jones
Pennaeth

 

 

 

Cyfnod Allweddol 3: Blynyddoedd 7, 8 a 9

 

Mae’r ysgol yn darparu cwricwlwm sy’n creu cydbwysedd rhwng yr 11 maes y cyfeirir atynt yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a hefyd elfennau trawsgwricwlaidd megis Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Thechnoleg Gwybodaeth.

Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i ddisgyblion gydag anawsterau dysgu.

Rhoddir ffocws arbennig ar ddatblygu a gwella sgiliau llythrennedd a rhif y disgyblion.  Ymhyfrydwn yn y ffaith ein bod ni yn Ysgol Bro Hyddgen wedi bod yn flaengar iawn wrth ymroi mor frwdfrydig i ofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhif Genedlaethol ac yn wir i arwain y ffordd yng nghanolbarth Cymru yn y maes hwn.  Ein bwriad ymhob agwendd o’n gwaith yw rhoi’r cyfle i’r disgyblion fod â’r medrau i’w galluogi i wireddu eu breuddwydion yn ystod yr 21ain ganrif.

 

 

 

Rydw i yn hoffi’r ysgol uwchradd oherwydd bod yr athrawon yn glên ac mae gennyf lawer o ffrindiau newydd . Y peth nad ydwyf yn hoffi yw bod yr ysgol yn fawr a bod rhaid symud o gwmpas i bob gwers . Ar ôl tua mis yn yr ysgol rydym wedi cael cynnig mynd i Oakwood ac rwy’n lwcus oherwydd rwy’n cael mynd.

 

Catrin Pughe.

 

Mae’r ysgol uwchradd yn grêt, yn hwyl ac yn gyffrous!  Roedd pawb yn amau y byddai’r athrawon yn gas a’r  gwaith yn anodd, ond dydi o ddim.  Mae’r athrawon i gyd yn garedig iawn ac os ydych yn gwrando arnyn nhw byddan nhw’n gwrando arnoch chi.  Mae dechrau ysgol uwchradd neu ysgol newydd yn brofiad gwahanol a chyffrous.

Yn fy niwrnodau cyntaf doeddwn ddim yn siŵr o gwbl i ddweud y gwir, ond mae popeth yn iawn.  Mae’r gwaith yn ddigon i herio eich hun ond ddim gormod.  Doeddwn i ddim yn sicr am y gwaith cartref achos rwy’n gwneud llawer o nofio, felly does gennai ddim llawer o amser, ond o wneud tipyn bach bob nos byddwch yn iawn.  Rwy’n mwynhau ysgol uwchradd yn fawr. Codi yn y bore yw’r peth anoddaf i fi ond rwy’n mwynhau.

Morgan Campbell

Lawrlwytho / Download:

Prospectws Uwchradd 2018-2019