Cyfnod Allweddol 4
Yn dilyn blwyddyn arall lwyddiannus iawn gyda canlyniadau TGAU’r ysgol rwyf yn falch iawn o’r ysgol, disgyblion a’r athrawon gweithgar.
Er bod niferoedd mewn ysgolion yn lleihau ar draws y wlad mae’r niferoedd ym Mro Hyddgen yn parhau i fod yn gyson gyda dysgwyr yn ymuno ô’r ysgol o du allan i’r dalgylch. Rydym yn derbyn disgyblion o dair sir – Powys, Gwynedd a Cheredigion. Mae’r dalgylch ym Mhowys yn ymestyn mor bell â Charno yn y dwyrain ac Aberangell yn y gogledd-ddwyrain. Awdurdod Addysg Powys sy’n gyfrifol am yr ysgol ond y mae trefniadau arbennig i dderbyn disgyblion o Wynedd a Cheredigion.
Fel ysgol gyfun gymysg mae Ysgol Bro Hyddgen yn darparu’r cyrsiau uwchradd arferol hyd at Lefel ‘A’, U/G, TGAU, Bagloriaeth Cymreig a chyrsiau Galwedigaethol. Mae natur y dalgylch lle mae’r mwyafrif o’r ysgolion cynradd yn ysgolion Cymraeg eu hiaith ac ysgol gynradd y dref yn ffrydio’n ieithyddol yn llunio patrwm ieithyddol Ysgol Bro Hyddgen. Rydym yn darparu cyrsiau yn y ddwy iaith ac y mae bywyd gweinyddol a chymdeithasol yr ysgol yn ddwyieithog.
Dafydd M B Jones
Pennaeth
Allweddol 4: Blynyddoedd 10 ac 11
Mae Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn bynciau statudol yn ysgolion Cymru.
Mae’r disgyblion yn gwneud eu dewis eu hunain o dri phwnc TGAU ar gyfer gweddill y cwricwlwm. Yn ogystal â phynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau TGAU mewn Astudiaethau Crefyddol, Astudiaethau Busnes, Drama, Technoleg Gwybodaeth ac Addysg Gorfforol.
Rydym yn arloesi drwy ddysgu cwrs BTEC (cyfwerth â 2 bwnc TGAU) mewn Amaethyddiaeth. Mae hyn yn adlewyrchu natur yr ardal ac yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc gael mynediad i gyrsiau Prifysgol megis Amaeth neu Rheolaeth Cefn Gwlad.
Ynghyd â hyn oll mae disgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 yn astudio ar gyfer cymhwyster Canolradd Bagloriaeth Cymru.
Rydym yn cydweithio â sefydliadau Addysg Bellach i gynnig opsiwn galwedigaethol, megis Harddwch a Thrin Gwallt, Adeiladwaith a Thrin Ceir.
Mae gan yr ysgol hon ymrwymiad i roi cyfle cyfartal i bob disgybl.