Annwyl Fyfyriwr

Rydych yn cyrraedd cyfnod tyngedfennol yn eich bywydau, gydag arholiadau TGAU o’ch blaen a’r angen i ddewis y llwybr addysg gorau ar gyfer eich dyfodol.

Gall Chweched Dosbarth Ysgol Bro Hyddgen gynnig amrediad cynhwysfawr o gyrsiau academaidd a galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Ceir manylion llawn yn y prosbectws hwn.

Yn ogystal â dilyn 3 neu 4 cwrs Uwch Gyfrannol (UG) neu bynciau galwedigaethol (BTEC neu OCR) neu gyfuniad ohonynt, byddwch, fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr Chweched Dosbarth Cymru, yn astudio ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cymhwyster cydnabyddedig yw hwn sydd bellach yn cael ei raddio: A* – E.

Er bod yr ysgol yn tyfu, mae ein Chweched Dosbarth yn parhau yn ddigon bychan i’n galluogi i ymateb i anghenion yr unigolyn.  Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r pynciau wedi’u clymu i golofnau opsiwn. Mae hyn yn caniatáu dewis agored i fyfyrwyr. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni beth yw eich dewis bynciau mor fuan â phosib ac i’w cadarnhau ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau TGAU er mwyn i ni allu gwneud amserlen a fydd yn cwrdd â’ch anghenion. 

Yn ystod eich amser yn y Chweched Dosbarth bydd cyfle i ddatblygu’n bersonol drwy gyfrwng rhaglen gofal bugeiliol yr ysgol. Gallwch hefyd drefnu gweithgareddau, megis eisteddfodau, gwaith elusennol, a sioeau neu gyngherddau ysgol. Mae myfyrwyr y Chweched Dosbarth bellach wedi’u cartrefu yng nghanolfan Astudio Hyddgen ble mae ganddyn nhw fynediad cyntaf i’r adnoddau ardderchog. Mae llyfrgell yr ysgol hefyd ar gael ar gyfer gweithio’n annibynnol.  Mae ein myfyrwyr yn hapus iawn yma ac mae’r rhai sydd wedi ymuno â ni o ysgolion eraill yn dweud ei bod yn hawdd ymgartrefu a gwneud ffrindiau yma.

Mae croeso i ddisgyblion o bob gallu, diddordeb a chefndir wneud cais i ymuno â’r Chweched Dosbarth os oes gennym gwrs addas i chi; os oes gennych y cymwysterau priodol (gweler isod); os ydych yn barod i ymrwymo’n llwyr i’r gwaith a chymryd cyfrifoldeb am reoli eich amser yn ddoeth.

Pob lwc i chi yn yr arholiadau TGAU ac edrychaf  ymlaen at eich croesawu i Chweched Dosbarth Ysgol Bro Hyddgen ym mis Medi. 

Iona Thomas
Pennaeth y Chweched

 

Blynyddoedd 12 ac 13

Ers mis Medi 2011 mae mwy o ddewis ar gael i’r Chweched Dosbarth gyda’r ysgol yn  gweithio mewn partneriaethau â darparwyr eraill. Rydym wedi sefydlu partneriaeth gydag Ysgolion Penweddig a Llanidloes a Choleg Meirion Dwyfor  er mwyn cynnig cyrsiau BTEC  Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Iechyd a Gofal, Cymdeithaseg ac Addysg Awyr Agored. Mae’r myfyrwyr hefyd yn astudio ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru , rwan sy’n gymhwyster cydnabyddedig gwerth ei gael.

Lawrlwytho / Download:

Prosbectws Chweched