Canlyniadau TGAU 2020 Ysgol Bro Hyddgen

 

Mae’r cohort blwyddyn 11 eleni wedi bod yn enghreifftiol o ran eu llwyddiannau a’u hymagweddau tuag at ddysgu gydol eu hamser yn Ysgol Bro Hyddgen.  Mae’r Pennaeth Mr Dafydd Jones yn gadarnhaol iawn ei ganmoliaeth o’r disgyblion: “Mae cohort blwyddyn 11 eleni wedi bod yn grwp arbennig o bobl sydd wedi gweithio’n gydwybodol iawn ac wedi ymdrechu’n bositif gydol eu hamser yn yr ysgol, ac mae wedi bod yn bleser eu cael fel aelodau o’r ysgol.  LRydym yn eu llongyfarch ar eu canlyniadau TGAU rhagorol sy’n adlewyrchiad teilwng iawn o’u perfformiad gydol eu cyfnod yn Ysgol Bro Hyddgen.  Dymunaf ddiolch i’r rhieni a gofalwyr, y staff a chymuned ehangach yr ysgol sydd wedi cynnig cyfleoedd a chefnogaeth arbennig i alluogi’r disgyblion hyn i gyflawni mor arbennig.  Yn gyson, mae eu safonau cyflawniad wedi bod yn eithriadol o uchel, ac ymfalchiaf bod cynifer ohonynt yn ymuno gyda’n chweched dosbarth gan gynnwys nifer arwyddocaol o ddisgyblion o ysgolion lleol eraill; gwna hyn i chweched dosbarth Ysgol Bro Hyddgen fod yn un o’r chweched dosbarth mwyaf ym Mhowys.  Dymunaf y gorau i’n disgyblion oll gan gynnwys y rhai sydd yn aros yma ym Mro Hyddgen i astudio, y rhai fydd yn derbyn addysg mewn colegau addysg bellach ac i’r rhai fydd yn dilyn llwybr prentisiaeth – fel ysgol rydym yn falch iawn o bob un ohonoch.”

 

Mae’r canlynol ymysg y canlyniadau arbennig hyn:

 

Oskar Bond – 10A*, 3A ac 1 Anrhydedd

Daisy Yiangou – 8A*, 6A ac 1 Clod

Branwen Roberts – 8A*, 3A, 2B, 1C ac 1 Llwyddiant

Huw Hickman –7A*, 5A, 1B ac 1 Anrhydedd

Lea Jones – 5A*, 6A, 2B ac 1 Anrhydedd*

Non Bleddyn-Jones – 5A*, 8A, 1B ac 1 Clod

Mari Fychan – 4A*, 7A a 2B

Zac Rose – 4A*, 4A, 2B ac 1 Anrhydedd

Jess Chick – 4A*, 3A, 3B, 2C a 2 Glod

Gwenfair Davies – 3A*, 9A, 2B ac 1 Clod

Jack Callow – 2A*, 7A, 2B ac 1 Llwyddiant

Chloe Duckett – 2A*, 6A, 4B, 1 Clod ac 1 Llwyddiant

Johan Aufdenkampf – 2A*, 4A, 3B a 2C

Morfudd Fenwick – 1A*, 9A a 2C

Ben Clive – 1A*, 4A, 2B, 1C, 1 Anrhydedd ac 1 Llwyddiant