Gwyliau / Absenoldeb yn Ystod y Tymor.

Rydym yn awyddus i weld pob plentyn yng Nghymru’n llwyddo. Gan hynny mae’n bwysig bod rhieni’n gwneud eu gorau glas i helpu disgyblion i ddod i’r ysgol am y 190 diwrnod llawn mewn blwyddyn academaidd, yn ôl Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Diwygiad) 2006.

O dan y Ddeddf Addysg (1996), cyfrifoldeb y rhiant neu’r gofalwr yw sicrhau bod eu mab neu eu merch yn mynychu’r ysgol. Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol bwysig ac mae colli’r ysgol yn gallu cael effaith fawr ar gyflawniad dros flwyddyn fel mae’r grid isod yn ei ddangos:

Gobeithio y byddwch chi’n gallu cefnogi’r polisi hwn a threfnu gwyliau y tu allan i amser tymor. Mae’r ysgol ar gau am 175 diwrnod mewn

Presenoldeb

95-100%

Cyfle gorau o lwyddo

Mae’ch plentyn yn manteisio’n llawn ar bob cyfle dysgu.

Presenoldeb

90-95%

Mae’ch plentyn wedi colli o leiaf dwy wythnos o ddysgu

Boddhaol.

Efallai y bydd rhaid i’ch plentyn dreulio amser yn dal i fyny

gyda Gwaith.

Presenoldeb

85-90%

Mae’ch plentyn wedi colli o leiaf pedair wythnos o ddysgu

Gall eich plentyn fod mewn perygl o dangyflawni ac efallai y bydd rhaid i chi roi help i’ch plentyn i ddal i fyny gyda’u Gwaith

Presenoldeb

80-85%

Mae’ch plentyn wedi colli pum wythnos a hanner o ddysgu

Mae presenoldeb gwael yn effeithio’n sylweddol ar ddysgu’ch plenty.

Presenoldeb

o dan 80%

Mae’ch plentyn wedi colli saith wythnos a hanner o ddysgu

Mae’ch plentyn yn colli allan ar addysg eang a chytbwys. Rydych chi mewn perygl o gael eich erlyn.

blwyddyn os ydych chi’n cyfrif penwythnosau a gwyliau ysgol. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod eich plentyn yn llwyddo yn yr ysgol.

Serch hyn, os bydd amgylchiadau’n codi sy’n golygu bod rhaid i chi gymryd gwyliau yn ystod y tymor, rydym yn gofyn i chi lenwi’r ffurflen ar ochr arall y llythyr hwn a’i hanfon yn ôl i’r ysgol at sylw’r pennaeth.

Gwneud Cais am Wyliau

Os ydych chi’n dymuno mynd â’ch plentyn neu’ch plant ar wyliau yn ystod amser tymor rhaid i chi lenwi’r ffurflen Cais am Wyliau a geir o’r swyddfa, o leiaf 28 diwrnod cyn mynd i ffwrdd. Wedyn bydd y Pennaeth / Pennaeth Cynorthwyol yn ystyried eich cais.

Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhoi grym dewisol i benaethiaid i adael i deulu gymryd gwyliau yn ystod amser tymor lle mae rhieni’n gofyn caniatâd. Ar wahân i amgylchiadau arbennig, ni chaniateir mwy na deg diwrnod o wyliau. Yn yr ysgol hon byddwn yn ystyried yr agweddau canlynol cyn penderfynu caniatáu gwyliau yn ystod amser tymor.

Ffigyrau presenoldeb ar gyfer y flwyddyn flaenorol. (Byddwn yn disgwyl i bresenoldeb fod yn uwch na 90 y cant.)

Ymddygiad ac agwedd tuag at fywyd ysgol.

Nad yw’r gwyliau’n torri ar draws cyfnodau dysgu pwysig rydym wedi tynnu’ch sylw atyn nhw (fel asesiadau ddiwedd y flwyddyn sy’n digwydd ym mis Mai bob blwyddyn).

Eich bod yn llenwi’r ffurflen hon yn gywir a chyflwyno cais 28 diwrnod cyn y gwyliau.

Y Pennaeth yn unig sydd biau’r dewis i ganiatáu gwyliau fel y bydd yn gweld yn dda.

Byddwn yn gwneud cais i roi Hysbysiad Cosb Benodedig os byddwn yn cofnodi pum diwrnod neu fwy (deg sesiwn) o ‘absenoldeb heb awdurdod’ a bod presenoldeb o dan 90 y cant ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yn hyn.

Byddwn yn anfon bonyn caniatáu / gwrthod caniatáu atoch chi o fewn

saith diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais