Mewn cymuned wledig fel Machynlleth mae’n hanfodol bwysig fod ein pobl ifanc a’u rheini yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgol. Mae’r ysgol wedi defnyddio technoleg yn effeithiol er mwyn llwyddo. Er mwyn sicrhau hyn mae gan yr ysgol system gyfathrebu effeithiol gyda nifer o dechnegau sydd yn gwneud hyn yn bosib a hynny wyth gyfathrebu yn fewnol ar gyfer ein disgyblion a staff ond hefyd yn allanol gydag ymwelwyr, rheini a’r gymuned.
Gwefan yr Ysgol
Mae’r wefan yn hanfodol i rannu gwybodaeth bwysig, ffurflenni, llythyrau a hefyd hyrwyddo’r ysgol i’r gymuned a thu hwnt. Mae’r wefan yn ddwyieithog ac yn hysbysebu’r prosbectws a newyddion blog drwy twitter a hefyd llwyddiannau’r ysgol yn yr ardal newyddion.
Gwefan : https://www.brohyddgen.powys.sch.uk
Cyfryngau Cymdeithasol (Twitter a Facebook)
Mae defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau cyswllt cryf rhwng y cartref a’r ysgol. Mae yna gymaint o ddigwyddiadau a llwyddiannau yn digwydd yn yr ysgol ac mae rhieni yn ddiolchgar ein bod ni’n cyhoeddi’r rhain a’u cadw nhw mewn cyswllt gyda’r ysgol yn eu ffrwd cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter. Un o fanteision cyfryngau cymdeithasol ydy fod rhieni yn gallu cadw mewn cyswllt â’r ysgol trwy wahanol ddulliau a thechnoleg, boed hynny yn gyfrifiadur, yn dabled neu yn ffôn symudol.
Facebook : https://www.facebook.com/BroHyddgen
Twitter: https://twitter.com/brohyddgen
Neges Testun ac ClassCharts
Ers 2012 mae’r ysgol wedi mabwysiadu system teachers 2 parents sydd yn caniatáu i’r ysgol i yrru neges destun at y rheini. Nid negeseuon i hysbysu’r rhieni nad yw eu plentyn wedi gwneud ei waith cartref mo rhain yn unig ond defnyddir y cyfrwng hwn fel arf i atgoffa’r rhieni am ddigwyddiadau’r ysgol yn ogystal â rhoi gwybod i’r rhieni am unrhyw waith da y mae eu plentyn yn ei wneud yn yr ysgol. Trwy ganmol y plant a throsglwyddo’r neges yma i’r cartref mae’r rheini hefyd yn gallu canmol eu plant ac rydym yn llwyddo i hyrwyddo cyfathrebu a chysylltiad cyson a chlir rhwng yr ysgol a’r cartref. Rydych hefyd yn gallu gweld popeth o rhan ymddygiad a hefyd agwedd at dysgu o eich plentyn trwy’r app “ClassCharts”. – https://www.brohyddgen.cymru/index.php/classcharts-page
Llwyfan e-ddysgu’r Ysgol (VLE)
Mae’r ysgol eisoes wedi defnyddio nifer o systemau effeithiol ar gyfer cau’r bwlch rhwng adnoddau dysgu yn y cartref a’r ysgol. Rydym yn defnyddio Remote Desktop, Moodle a hefyd Office 365 sydd yn caniatáu i bob disgybl yn yr ysgol gael mynediad i system yr ysgol o’r cartref. Rydym hefyd yn sicrhau fod gan pob plentyn fynediad i becynnau meddalwedd yr ysgol am ddim yn y cartref i sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn yn yr ysgol.
Ein Bro Papur Newydd yr Ysgol
Yn ei hanfod, pwrpas papur newydd yr ysgol, Ein Bro, yw dathlu llwyddiannau ein disgyblion; rhoi cydnabyddiaeth a bri i’r disgyblion hynny sy’n cymryd y cam ychwanegol hwnnw ac yn serennu gan obeithio annog eraill i ddilyn yr un llwybr. Mae’n llinyn cyswllt effeithiol tu hwnt rhwng yr ysgol, y rhieni a’r gymuned ac yn arddangos doniau ein pobl ifanc.
Gellir lawr lwytho’r papur newydd yma: https://www.brohyddgen.powys.sch.uk/cy/gwybodaeth/papur-newydd-ysgol-ein-bro
Anwiredd fyddai dweud mai gwaith un person yw’r wefan a holl ddulliau cyfathrebu arloesol yr ysgol, gan gynnwys Ein Bro. Mae’n waith tîm; yn ffrwyth llafur y disgyblion a’r staff.
Mae’n diolch ni’n fawr i bawb sydd wedi cyfrannu ac sy’n parhau i gyfrannu gan obeithio y bydd dulliau cyfathrebu’r ysgol yn parhau i ddatblygu am flynyddoedd i ddod.