Mae’n bleser gennym eich hysbysu y bydd Ysgol Bro Hyddgen yn cyflwyno’r system arlwyo heb arian parod o.  Bydd y myfyrwyr i gyd yn defnyddio’r system arlwyo heb arian i brynu popeth yn ein cantîn. Rydym am wella ansawdd gwasanaeth prydau bwyd ein hysgol a bydd y system hon yn ein galluogi i gyflawni hyn.

Campws Uwchradd

Bydd Ysgol Bro Hyddgen, safle uwchradd, yn gweithredu’r system talu heb arian o ddydd Llun, 13 Mawrth, ymlaen. Golyga hyn na fydd modd defnyddio arian i dalu am unrhyw fwyd na diod yn y ffreutur wedi’r dyddiad hwn. Dymunwn atgoffa’r rhieni y dylid gwneud taliad ar lein cyn gynted â phosib.

Gwneud Taliadau:

Mae dau opsiwn ar gyfer gwneud taliadau
Ar-lein – Bydd gwasanaeth talu ar-lein diogel o’r enw ParentPay ar gael i chi i dalu am brydau bwyd ysgol.
Mae ParentPay yn cynnig y rhyddid i wneud taliadau’n ddiogel pryd bynnag a lle bynnag yr hoffech chi wneud hynny 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gan wybod bod y dechnoleg a ddefnyddir yn defnyddio’r diogelwch sicraf bosibl sydd ar gael ar y rhyngrwyd.
Bydd gennych gyfrif ar-lein diogel, a fydd yn cael ei ysgogi trwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Os oes gennych fwy nag un plentyn yn yr ysgol hon, gallwch gyfuno eu cyfrifon a chreu un set o fanylion mewngofnodi ar gyfer eich holl blant.
Mae ParentPay yn gwneud talu yn syml, ac mae’n cadw hanes y talu i chi ei weld yn nes ymlaen. Pan fyddwch wedi agor eich cyfrif, gallwch wneud taliadau ar-lein yn syth.  Sylwch mai £10.00 yw’r isafswm lefel trafodiad wrth wneud taliad. Mae’r system hefyd yn gallu darparu adroddiad sy’n rhoi manylion pob eitem o fwyd sy’n cael ei weini, pob credyd a wnaed i’r system, ar gyfer unrhyw gyfnod o amser, ac mae’n dangos y balans cyfredol.
Gweler y llythyr amgaeedig sy’n esbonio sut i sefydlu eich cyfrif. Mae’n darparu cyfarwyddiadau fesul cam er mwyn ysgogi eich cyfrif ar-lein ParentPay, gan gynnwys manylion sut i wneud taliadau ar-lein.
Pwynt Talu – Ar gyfer rhieni / gofalwyr nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd, neu nad ydynt yn dymuno ychwanegu arian ar-lein, gallwch chi ddefnyddio unrhyw gyfleuster Pay Point yn y gymuned. I ddod o hyd i’ch Man Talu (PayPoint) agosaf ewch I https://paypoint.com/en-gb   a theipiwch eich cod post.
Er gwybodaeth, mae’r mannau talu Pay Point yn ardal Machynlleth yn y lleoedd canlynol:
• Siop Spar
• Harry Tuffins Ltd.
• Siop Co-Op
Gallwch ddefnyddio siopau sy’n derbyn Pay Point ar hyd a lled y wlad.
Er mwyn defnyddio’r cyfleuster Pay Point, bydd angen cerdyn y gellir ei archebu drwy swyddfa gyllid eich ysgol. Bydd cost y cerdyn cychwynnol yn cael ei dalu. Ond os yw eich cerdyn yn cael ei golli neu ei ddifrodi a cherdyn newydd yn cael ei archebu. Bydd disgwyl i chi dalu’r swm o £ 1.50 + TAW
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r system heb arian parod, peidiwch ag oedi- cysylltwch â’r Gwasanaeth Arlwyo ar 01597 827500.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am y gefnogaeth a ragwelwn i’r system newydd hon a fydd o fudd i fyfyrwyr, y rhieni a’r ysgol.

Campws Cynradd

Bydd Ysgol Bro Hyddgen, safle cynradd, yn gweithredu’r system talu heb arian o ddydd Mercher, 29fed o Mawrth, ymlaen. Golyga hyn na fydd modd defnyddio arian i dalu am unrhyw fwyd na diod yn y ffreutur wedi’r dyddiad hwn. Dymunwn atgoffa’r rhieni y dylid gwneud taliad ar lein cyn gynted â phosib.