Grant Amddifadedd Disgyblion

Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) Ysgol Bro Hyddgen 2019-2020

Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru fel y prif ddulliau o sicrhau cymorth ariannol i ysgolion. Mae’r GAD yn targedu’r canlynol yn benodol:

· Agweddau Ysgol Gyfan

· Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned

· Dal i Fyny a Thiwtora

· Cyfoethogi a Dyheadau

· Lles

Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD)

Cyfanswm: £51,750

 

Gweithgareddau sydd ar waith i dargedu codi safonau a chau’r bwlch tlodi

· Darpariaeth mentora ac ymyrraeth Llythrennedd, Rhifedd a Lles

· Cefnogaeth sydd yn sicrhau bod rhaglen ymyrraeth & strategaethau gwahaniaethu addas ar waith

· Sesiynau tiwtora i dargedu cyflawniad uchel yn y pynciau craidd yn benodol, a lle bo’n addas mewn pynciau eraill yn CA4

· Clwb Gwaith Cartref & Chlwb Brecwast

· Cefnogaeth ar gyfer teithiau addysgol lle bo’n addas a chynhaliaeth gyffredinol lle bo’n addas

· Cefnogaeth i dderbyn gwersi offerynol gan athrawon peripatetig

· Deunyddiau ac offer addysgol megis ipads, meddalwedd a llyfrau

· Nosweithiau dysgu ar gyfer rhieni a disgyblion i sicrhau arweiniad i rieni ar sut y gellir cefnogi’r plentyn i wella safonau cyrhaeddiad

· Sesiynau mentora lle bo’n addas gydag Anogwyr Dysgu i gefnogi’r disgyblion i osod a chyrraedd targedau gweithredol

· Systemau tracio sydd yn mesur cynnydd ac effaith yr ymyrraethau a weithredir