Beth yw Trosglwyddo?
Yn ystod y flwyddyn academaidd yma bydd Ysgol Bro Hyddgen yn gwahodd blwyddyn 6 i’n diwrnodau trosglwyddo. Bwriad y diwrnodau hyn yw i’ch plentyn cael profiad o beth mae fel bod yn ddisgybl ysgol uwchradd. Mae’r rhaglen yn helpu i’ch plentyn ddod yn gyfarwydd â’r ysgol, yr athrawon ac i ddod i adnabod disgyblion bydd yn eu blwyddyn y flwyddyn nesaf.