Wal Waw Celynen

 

Fel rhan o’n paratoadau ar gyfer ein trip i  Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth buom yn gwneud gwaith ar stori ‘The Tiger That Came To Tea’. Fel y gwelwch o’r lluniau, gwnaeth y teigr lanast enfawr yn ein hystafell ddosbarth ac roedd rhaid i ni dacluso ar ei ôl. Penderfynon ni wedyn y bydden ni’n cael parti i ddysgu cwrteisi i’r teigr. Gwnaethon ni wahoddiadau a chacennau yn barod ar gyfer y te parti ble defnyddion ni goggles rhithwir. Pan oedd y goggles ymlaen, roedd y plant yn gallu gweld bod y teigr ei hun wedi dod i’n parti ni!